Gwneud cais o dramor
Y GIG yw'r cyflogwr unigol mwyaf yn y DU, gan gyflogi dros filiwn o bobl, pump y cant o boblogaeth weithio'r DU. Mae ein gweithlu yn hynod o amrywiol ac yn amlddiwylliannol - yn union fel ein cleifion. Ac rydym yn aml yn edrych y tu hwnt i'r DU ac Ewrop i ddenu'r talent orau. Croesewir yn arbennig geisiadau gan staff gofal iechyd â chymwysterau proffesiynol o'r tu allan i'r DU.
Dyma'r prif bethau i fod yn ymwybodol ohonynt os ydych yn gwneud cais am swydd gyda'r GIG o dramor.
Gwiriwch fanyleb y person
Fe welwch 'fanyleb y person' ar yr holl swyddi a hysbysebir ar y wefan. Mae hwn yn nodi'r gofynion y bydd angen i chi eu hystyried ar gyfer y rôl. Sicrhewch fod gennych y profiad a'r cymwysterau perthnasol cyn ymgeisio am swydd. Dim ond ymgeiswyr sy'n dangos yn glir yn eu ffurflen gais eu bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd fydd yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad. Ar gyfer swyddi poblogaidd iawn, gall cyflogwyr ond ystyried yr ymgeiswyr hynny sydd hefyd yn bodloni'r meini prawf dymunol a amlinellir yn y fanyleb person.
Recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn rhyngwladol
Mae NHS Jobs yn dilyn y cod ymarfer ar gyfer recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn rhyngwladol. Mae hyn yn hyrwyddo'r safonau gorau posibl mewn recriwtio rhyngwladol, ac yn atal unrhyw arferion amhriodol a allai niweidio systemau gofal iechyd gwledydd eraill neu fuddiannau'r rhai sy'n ymgeisio am swyddi.
Cofrestriadau proffesiynol
Os byddwch yn gwneud cais am swydd sy’n gofyn am gofrestriad proffesiynol, bydd angen i chi gofrestru gyda’r corff rheoleiddio priodol. Os byddwch wedi’ch cofrestru yn eich gwlad gartref, ond heb gofrestriad y DU, gall rhai cyflogwyr y GIG helpu gyda hyn o bosibl. Dysgwch fwy am y system i asesu ceisiadau mewnfudo ar gyfer y DU ar wefan Health Careers.
Hawl i weithio yn y DU
System sy’n seiliedig ar bwyntiau yw system fewnfudo’r DU ar gyfer rheoli ceisiadau gan unigolion o’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a’r Swistir sy’n dymuno gweithio, hyfforddi neu astudio yn y DU. Mae'r system hon yn symleiddio llwybrau i gyflogaeth ac addysg yn y DU i bum haen. Os ydych yn dod o’r tu allan i’r AEE, mae angen i chi ennill pwyntiau i fod yn gymwys ar gyfer haen benodol cyn y gallwch wneud cais i weithio yn y DU. Mae nifer y pwyntiau sydd eu hangen yn amrywio ar gyfer pob haen ond yn adlewyrchu cymwysterau, profiad, oedran, enillion blaenorol a chymhwysedd iaith yr ymgeiswyr.
Haen 1: gweithwyr medrus iawn. Mae'r haen hon bellach ar gau i bob ymgeisydd newydd sy'n gwneud cais o'r tu allan i'r DU. Gall unrhyw un sydd eisoes yn dal Haen 1 (cyffredinol) neu’r fisa rhaglen ymfudol hynod fedrus (HSMP) ymestyn eu harhosiad yn seiliedig ar y rheolau a’r meini prawf a oedd ar waith ar yr adeg y cawsant ganiatâd i aros yn y categori hwn am y tro cyntaf.
Haen 2: gweithwyr medrus. Mae’r categori hwn yn galluogi sefydliadau’r GIG i recriwtio unigolion o’r tu allan i’r AEE i lenwi swyddi gwag na all gweithiwr Prydeinig neu AEE eu llenwi.
Haen 3: gweithwyr medrus isel. Nid yw'r categori hwn ar gael fel llwybr mynediad i'r DU.
Haen 4: myfyrwyr. Bydd darparwyr addysg y DU yn gweithredu fel noddwr ar gyfer myfyrwyr o'r tu allan i'r DU neu'r AEE. Os cewch eich derbyn i astudio, byddwch yn cael Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS). Bydd angen fisa ar bob myfyriwr i ddod i mewn i’r DU, sydd hefyd yn caniatáu i chi i weithio’n rhan amser yn ystod y tymor ac yn llawn amser yn ystod y gwyliau.
Haen 5: gweithwyr dros dro a symudedd ieuenctid. Mae categori gweithiwr dros dro haen 5 yn caniatáu i sefydliadau’r GIG eich cyflogi os ydych yn dod o’r tu allan i’r AEE am hyd at 24 mis fel rhan o raglen gyfnewid a awdurdodir gan y llywodraeth. Mae'r categori symudedd ieuenctid o haen 5 yn disodli'r fisa 'gwyliau gwaith'. Os yw'ch gwlad yn rhan o'r Cynllun Symudedd Ieuenctid (YMS), gallant weithredu fel noddwyr i roi Tystysgrif Nawdd i chi.
Dysgwch fwy am y system i asesu ceisiadau mewnfudo ar gyfer y DU ar